Mae teulu dynes 51 oed a gafodd ei lladd gan yrrwr lorri ludw yn Glasgow yn bwriadu dwyn achos preifat yn ei erbyn.

Roedd Jacqueline Morton yn un o chwech a gafodd ei lladd pan darodd Harry Clarke, 58, yn ei herbyn ar Ragfyr 22 y llynedd.

Mae cyfreithwyr y teulu wedi gofyn i’r ymchwiliad sy’n ceisio datrys sut y digwyddodd y trychineb i ohirio’r achos er mwyn iddyn nhw ddwyn achos preifat.

Mae Swyddfa’r Goron eisoes wedi dweud nad ydyn nhw’n bwriadu ei erlyn mewn llys.

Mae’r ymchwiliad eisoes wedi clywed bod Harry Clarke wedi bod yn dioddef o’r pendro a’i fod wedi llewygu yn y cyfnod y digwyddodd y gwrthdrawiad.

Ond nid oedd wedi rhoi gwybod i’r DVLA nac i ddarpar gyflogwyr am ei gyflwr ar y pryd.

Mae’r ymchwiliad yn parhau.