Mae pump o lanciau 15 ac 16 oed a gafodd eu harestio mewn perthynas â thân mewn hen eglwys yn Llanelli wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Cafodd y pump eu harestio gan Heddlu Dyfed-Powys ddydd Gwener.
Roedd y tân wedi achosi difrod sylweddol i Eglwys y Parc nos Iau, ond ni chafodd unrhyw un ei anafu.
Mae trigolion lleol bellach wedi cael dychwelyd i’w cartrefi’n dilyn y digwyddiad.