Mae gyrrwr fan wedi cael ei arestio mewn cysylltiad gyda marwolaeth beiciwr yn dilyn gwrthdrawiad.

Fe gafodd y beiciwr, yn ei 40au, ei gludo i’r ysbyty yn diodde’ o anafiadau oedd yn bygwth ei fywyd, yn dilyn y gwrthdrawiad gyda fan Ford Transit wen ar ffordd yr A31 ger Bentley, swydd Hampshire, nos Fercher yr wythnos hon.

Bu farw yn ddiweddarach.

Yn ol datganiad gan Heddlu Hampshire, chafodd gyrrwr y fan, sy’n ei 20au, ddim anafiadau o gwbwl, ond fe gafodd ei arestio yn ddiweddarach ac mae’n dal i gael ei holi ynglyn â’r ddamwain.