Gosod blodau yn Tiwnisia (PA)
Mae’r cwmni gwyliau mawr TUI – perchnogion Thomson a First Choice – yn dweud bod argyfwng Groeg a’r ffrwydrad yn Tiwnisia wedi costio £20 miliwn iddyn nhw.

Roedd rhaid i’r cwmnïau hedfan ymwelwyr yn ôl o Tiwnisia ar ôl yr ymosodiad braw a laddodd 33 o’u cwsmeriaid.

Roedd pobol eraill wedi canslo gwyliau yno neu wedi gofyn am gael eu hanfon i ganolfannau gwyliau eraill.

Wrth i’r cwmni gyhoeddi eu canlyniadau chwarterol, fe ddywedon nhw fod argyfwng Gwlad Groeg wedi effeithio ar fusnes yn niwedd mis Mehefin a dechrau mis Gorffennaf.

Roedd y cwmni mawr arall, Thomas Cook, eisoes wedi cyhoeddi colledion o £25 miliwn oherwydd Tiwnisia a Groeg.