Y diweddar Edward Heath
Heddlu Wiltshire fydd yn goruchwylio unrhyw ymchwiliad ‘cenedlaethol’ i honiadau o gam-drin plant yn erbyn y diweddar Syr Edward Heath.

Mae beth bynnag saith o luoedd wedi bod yn ymchwilio yn ddiweddar i honiadau sy’n ymwneud â’r cyn-Brif Weinidog.

Heddiw, mae Heddlu Wiltshire wedi cadarnhau ei fod wedi cytuno y bydd yn “arwain y gwaith o gydlynu a goruchwylio unrhyw ymchwiliadau i Syr Edward Heath”.