Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol o £1.24 miliwn fydd yn cael ei roi i wasanaethau cam-drin domestig yng Nghymru.
Bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng pedwar ar ddeg o brosiectau cam-drin domestig ledled Cymru.
Bydd y rhan fwyaf o’r arian yn mynd tuag at prosiectau adeiladu a seilwaith mawr er mwyn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae’r grantiau yn amrywio o rai mawr fel £100,000 fydd yn mynd i Gymorth Merched Llanelli i brynu ac adnewyddu canolfan gefnogaeth newydd i rai llai fel yr £13,235 sy’n mynd i hafan Cymru i wella eu systemau technoleg gwybodaeth.
Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: “Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wneud popeth yn ei gallu i helpu dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol a sicrhau eu bod yn cael y cymorth i fyw’n ddiogel yn eu cymunedau.
“Mae llawer o sefydliadau’n cynnig gwasanaethau gwerthfawr i ddioddefwyr a’r rheini sy’n dod drwy’r profiad. Bydd y cyllid grant hwn yn eu helpu i wella’u cyfleusterau a meithrin eu gallu i ddarparu cymorth prydlon o ansawdd uchel.
“Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru), a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Mai, yn cael ei rhoi ar waith yn effeithiol.”