Mae byddin Cameroon wedi rhyddhau tua 70 o bobol, yn cynnwys plant, a fu’n cael eu dal yn gaeth yn erbyn eu hewyllys yng ngogledd y wlad, am gyfnodau’n amrywio o wyth mis hyd at bedair blynedd.
Mae Mallam Danlatti, perchennog y gwersyll lle’r oedd y bob yn cael eu cadw, wedi ei arestio. Y gred ydi fod ganddo gysylltiadau â rhai o arweinwyr y grwp Islamaidd eithafol, Boko Haram, yn Nigeria, y wlad drws nesa’.
Mae amcangyfrifon yn awgrymu fod tua 20 o ddynion, 50 o fechgyn a 2 ferch ymhlith y grwp o garcharorion.
Roedden nhw wedi eu clymu â chadwyn, wedi eu bwydo bob yn ail diwrnod, a’u gwahardd rhag ymolchi yn amlach nag unwaith bob tri mis.