Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dal i ymchwilio i achos y nofel “ffiaidd” a gafodd ei hanfon i mewn i gystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen eleni.
Er nad oes “newydd pellach i’w adrodd hyd yma”, yn ol yr heddlu, maen nhw wedi cadarnhau wrth golwg360 heddiw fod yr ymholiadau yn parhau wrth geisio dod o hyd i awdur a anfonodd nofel Gymraeg, 50,000 o eiriau a ddisgrifiwyd fel un bornograffig ac anifeilaidd i swyddfa’r brifwyl yn Yr Wyddgrug.
“Dydan ni ddim yn barod i wneud sylw am fod yr ymchwiliad yn parhau,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru. “Does ganddon ni ddim newydd pellach hyd yma,”
Roedd awdurdodau’r Brifwyl wedi cyflwyno’r gwaith i Heddlu Gogledd Cymru am ei bod yn ystyried y gwaith yn “groes i gyfraith gwlad”, ac am eu bod yn pryderu y gallai arwain at droseddu pe bai’r awdur yn cario allan rai o’r ffantasïau a grynhoir yn y gyfrol.
Cafodd y nofel ei diarddel o’r gystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol am nad oedd yr awdur wedi cydymffurfio â’r rheolau cystadlu ac am fethu â llenwi’r gwaith papur priodol… ond nid cyn i’r beirniaid dderbyn copïau o’r nofel a dechrau ei darllen.