Mae un dyn wedi marw, ac mae dau arall ar goll wedi i gwch pysgota droi drosodd yn ardal y Firth of Forth yn yr Alban.

Fe gafodd gwylwyr y glannau eu galw i chwilio am y dynion oddi ar arfordir Dwyrain Wemyss yn Fife, toc wedi 5yp ddydd Llun.

Cafodd un dyn ei achub o’r dwr rhyw filltir o’r lan, a’i gludo i Ysbyty Ninewells yn Dundee. Bu farw yn ddiweddarach, yn ol llefarydd ar ran Heddlu yr Alban.

Daethpwyd o hyd i’r cwch 10 troedfedd o hyd yn ardal Dwyrain Wemyss.

Mae’r chwilio’n parhau am y ddau ddyn arall sydd ar goll.