Fukushima
Mae’r adweithydd niwclear cyntaf i gael ei ail-gynnau o dan ofynion diogelwch newydd yn dilyn trychineb Fukushima wedi cael ei danio yn Japan.

Dywedodd cwmni Kyushu Electric Power ei fod wedi ailddechrau un adweithydd yn ei orsaf bŵer niwclear yn Satsumasendai, yn ne’r wlad.

Mae’r digwyddiad yn garreg filltir oherwydd ei fod yn nodi dychwelyd i ynni niwclear bedair blynedd a hanner ar ôl trychineb niwclear Fukushima yn 2011 a ddigwyddodd yn dilyn daeargryn a tswnami.

Yn dilyn y drychineb, bu’n rhaid symud mwy na 100,000 o bobl o’r ardal gan sbarduno trafodaeth genedlaethol ar orddibyniaeth Japan ar ynni niwclear.

Dywedodd llefarydd ar ran Kyushu Electric Power fod yr adweithydd wedi cael ei aildanio heb unrhyw broblemau.

Ond casglodd dwsinau o brotestwyr y tu allan i’r atomfa – gan gynnwys y cyn brif weinidog Naoto Kan oedd dal y swydd ar adeg y trychineb ac sydd wedi dod yn feirniad llafar o ynni niwclear.

Tra fod pob atomfa niwclear Japan wedi bod ar gau, mae’r wlad wedi gorfod mewnforio olew a nwy i greu trydan. Mae’r llywodraeth yn awyddus i ddychwelyd at ynni niwclear cyn gynted ag sy’n bosib gan fod ynni tanwydd ffosil yn arafu’r gostyngiad mewn allyriad nwyon tŷ gwydr.