Mae dyn a dynes wedi’u cyhuddo mewn perthynas â therfysgoedd o gwmpas gorymdaith weriniaethol yng nghanol dinas Belffast.

Fe aeth yr orymdaith yng ngogledd y ddinas heibio’n ddidramgwydd brynhawn Sul. Ond, fe fu’n rhaid i’r heddlu ddefnyddio canonau dwr awr yn ddiweddarach pan ddehreuodd criw o weriniaethwyr daflu bomiau petrol, cerrig a photeli atyn nhw.

Fe gafodd naw o heddweision eu hanafu.

Mae dynes 36 oed wedi’i chyhuddo o ymddygiad a allai achosi reiat; pedwar achos o ymosod ar yr heddlu; ac o wrthsefyll ac o rwystro yr heddlu wrth eu gwaith.

Mae dyn 53 mlwydd oed wedi’i gyhuddo o ymosod ac o ymddwyn yn anhrefnus.

Mae disgwyl i’r ddynas ymddangos gerbron Llys Ynadon Belffast yn ddiweddarach heddiw, a bydd y dyn yn ymddangos yn yr un llys ar Fedi 4.

Mae dau ddyn arall, 21 a 24 oed, wedi’u harestio, ac mae’n nhw’n parhau yn y ddalfa.