Mae dau ddyn 29 a 30 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 59 oed mewn fflat yn Birmingham.

Cafwyd hyd i’r dyn mewn fflat yn ardal Edgbaston y ddinas toc wedi 9.45 nos Wener, ond fe fu farw yn y fan a’r lle.

Mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal dros y penwythnos.