Mae Heddlu’r De wedi apelio o’r newydd am wybodaeth am ddiflaniad dyn 59 oed o Abertawe.

Dydy Alec Warburton ddim wedi cael ei weld ers Gorffennaf 31, ac mae’r heddlu’n dal yn awyddus i siarad â David Ellis.

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi mai tenant Alec Warburton yw David Ellis, ac maen nhw’n credu bod ganddo fe wybodaeth allai fod o ddefnydd iddyn nhw.

Mae’r heddlu wedi bod yn cynnal archwiliad fforensig yng nghartref Alec Warburton ar Heol Vivian yn Sgeti.

Maen nhw hefyd yn chwilio am gar Peugeot 205 gwyrdd Alec Warburton, rhif cofrestredig M805 HFJ. Cafodd y car ei weld ar luniau camera cylch-cyfyng ar Awst 2, ond dydy e ddim wedi cael ei weld ers hynny.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu nad yw ei ddiflaniad yn nodweddiadol o’i gymeriad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.