Mae dyn 29 oed wedi’i gyhuddo o dreisio dynes mewn mynwent yng Nghaerfyrddin.
Ymddangosodd y dyn gerbron Llys Ynadon Llanelli.
Cafwyd hyd i’r ddynes yn Eglwys Dewi Sant wedi’i hanafu fore Mawrth.
Mae’r dyn hefyd wedi’i gyhuddo o geisio achosi niwed corfforol difrifol, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.