Mae Lloegr wedi adennill y Lludw wedi iddyn nhw guro Awstralia o fatiad a 78 rhediad yn Trent Bridge.

Roedd carfan Alastair Cook yn gobeithio gwneud yn iawn ar eu tomen eu hunain am golli’r gyfres o 5-0 yn 2013/14.

39 o funudau’n unig barodd y trydydd diwrnod cyn i Mark Wood gipio wiced dyngedfennol Nathan Lyon i gau pen y mwdwl ar gyfres siomedig i Awstralia.

Bydd y gyfres yn gorffen ar gae’r Oval, ac fe fydd gan Loegr flaenoriaeth o 3-1 ar ddechrau’r ornest honno.

Yn ystod yr ornest, cipiodd Stuart Broad wiced rhif 300 ei yrfa ryngwladol oddi ar drydedd pelen y batiad, tra bod Ben Stokes wedi sicrhau ei ffigurau bowlio gorau erioed o 6-36.

Dechreuodd yr ornest yn y modd gwaethaf posib i Awstralia wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 60 mewn 18.3 o belawdau yn ystod y bore cyntaf.

Tarodd Joe Root 130 i Loegr wrth iddyn nhw sicrhau blaenoriaeth batiad cyntaf o 331, gan gau’r batiad ar 391-9.

Cafodd ei gefnogi gan ei gyd-chwaraewr o Swydd Efrog, Jonny Bairstow (74).

Dim ond 253 sgoriodd Awstralia yn eu hail fatiad ac roedd y gyfres i bob pwrpas ar ben.

Ar ddiwedd yr ornest, cyhoeddodd capten Awstralia, Michael Clarke ei fod yn ymddeol o griced rhyngwladol.