Yr Arglwydd Janner
Mae’r Arglwydd Janner wedi cael gorchymyn i ymddangos gerbron  llys i wynebu cyhuddiadau o droseddu rhyw, er gwaetha’r ffaith fod ei gyfreithiwr yn dadlau ei fod yn rhy sâl. Mae’r dyn 87 oed yn dioddef o ddemensia difrifol.

Mae’r cyn-Aelod Seneddol Llafur yn wynebu 22 o gyhuddiadau yn ymwneud â throseddau yn erbyn plant yn y 1960au, 1970au a’r 1980au.

Nid oedd yr Arglwydd Janner yn bresennol yn y gwrandawiad cyntaf a gynhaliwyd yn Llys Ynadon San Steffan.

Yn y gwrandawiad, fe ddywedodd cyfreithiwr sy’n cynrychioli Greville Janner fod y dyn 87 oed yn rhy sâl i wynebu’r cyhuddiadau am droseddau rhyw yn erbyn plant. Ond fe wfftiodd yr ynadon hynny, gan farnu fod yn rhaid i’r Arglwydd Janner fynychu’r achos.

Cafodd yr achos llys ei ohirio er mwyn caniatáu i’r cyfreithwyr  bennu dyddiad ar gyfer ymddangosiad Arglwydd Janner o flaen y llys.