Mae’r cyflwynydd teledu Alex Jones wedi ei hurddo i Orsedd y Beirdd yn y seremoni ar faes yr Eisteddfod heddiw.
Roedd Alex Jones, Llywydd Undeb Rygbi Cymru Dennis Gethin, a chyn-drefnydd yr Eisteddfod Hywel Wyn Edwards ymysg y rheiny sydd wedi derbyn Gwisg Las am eu cyfraniad i’r genedl.
Roedd y gantores werin Siân James a’r cerddor a’r cynhyrchydd Endaf Emlyn hefyd ymysg y rheiny dderbyniodd Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau yn y seremoni am 11.00 y bore.
‘Croeso gartref’
Dywedodd Alex Jones, sydd bellach yn cyflwyno rhaglen The One Show, wrth golwg360 ei bod hi’n hynod o falch o gael ei hurddo ac yn gweld yr Orsedd fel ffordd o gadw cyswllt â Chymru.
“Achos mod i wedi symud i fyw yn Llundain mae cael anrhydedd fel hyn ers mynd dros Glawdd Offa, fel petai, yn rhywbeth sbesial i fi,” meddai.
“Wnes i boeni am golli gwreiddiau a cholli Cymreictod wrth fynd i fyw yn Llundain.
“Ond o gael fy nghroesawu nôl mewn ffordd mor ffantastig, i gael fy nghroesawu i’r Orsedd, mae’n meddwl y byd i fi.
“Mae e’ fel tase rhywun yn dweud: ‘Alex ti’n iawn, mae dal croeso gartre i ti a ni dal yn browd iawn o beth ti ‘di wneud’.”
Anrhydeddau
Cafodd y canlynol i gyd eu derbyn i Wisg Las yr Orsedd heddiw – Pat Ashman, Llinos Iorwerth Dafis, D Eurig Davies, Hilda Mary Edwards, Hywel Wyn Edwards, Dennis Gethin, David Gravell, Sarah Hopkin, Alex Jones, Elfair Jones, Elin Jones, Esme Jones, Gwyneth Jones, Eifion Parry, Meriel Parry, Mary Price, Thomas Price, Enid Thomas, Heulwen Williams, John Trefor Williams.
Yn ogystal â hynny, cafodd y canlynol eu derbyn i Wisg Werdd yr Orsedd – Rhian Davies, Endaf Emlyn, Siân James, Moira Lewis, Iwan Morgan, Eira Palfrey, Robert Parry, Alwena Roberts, Huw Alan Roberts, Trebor Roberts, Gillian Thomas.
Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol sy’n cael eu hurddo i’r Wisg Wen, sef y gydnabyddiaeth uchaf, erbyn hyn.