Syr Edward Heath
Mae dau lu heddlu arall yn dweud eu bod wedi derbyn honiadau yn erbyn y cyn-Brif Weinidog Syr Edward Heath.

Dywed Heddlu Sir Gaerloyw eu bod nhw wedi cyfeirio’r mater at Operation Hydrant, sy’n cyd-lynu nifer o ymchwiliadau i achosion hanesyddol o gam-drin plant yn rhywiol ar draws gwledydd Prydain.

Ac mae Heddlu Dyffryn Tafwys hefyd wedi dweud eu bod yn ymchwilio i wybodaeth ynglŷn â’r cyn-Brif Weinidog sydd wedi dod i law.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Sir Gaerloyw nad ydyn nhw’n ymchwilio i unrhyw honiadau yn erbyn Heath.

“Gallwn gadarnhau ein bod wedi derbyn honiad yn erbyn Syr Edward Heath,” meddai llefarydd.

“Mae’r heddlu wedi cyfeirio’r honiad at swyddogion Operation Hydrant ac fe fyddwn ni’n cydweithio’n agos gyda nhw i benderfynu ar yr awdurdod priodol i gynnal ymchwiliad.”

Mae Heddlu Hampshire, Swydd Wiltshire, Llundain, Caint ac Ynys Jersey eisoes yn ymchwilio i honiadau yn erbyn y cyn-Brif Weinidog.

Yn ogystal mae Heddlu Gogledd Swydd Efrog yn archwilio cofnodion ar ôl i lun ymddangos o Syr Edward Heath yn cwrdd â Peter Jaconelli, sy’n cael ei amau o fod yn bedoffeil ac a oedd yn ffrind i Jimmy Savile.