Rhodri Miller ac Alesha O'Connor
Mae ymchwiliad yr heddlu i farwolaeth pedwar o bobl ar yr A470 ger Aberhonddu  bellach wedi dod i ben.

Bu farw Alesha O’Connor, Rhodri Miller a Corey Price, a oedd yn eu harddegau, yn y gwrthdrawiad ar yr A470 ar 17 Mawrth, ynghyd a’r bensiynwraig Margaret Challis, 66.

Cafodd saith llanc eu harestio yn dilyn y gwrthdrawiad ar amheuaeth o yrru’n beryglus ond nid oes unrhyw un wedi cael eu cyhuddo hyd yn hyn.

Mewn gwrandawiad cyn y cwest yn Aberhonddu heddiw bu Heddlu Dyfed Powys yn hysbysu’r crwner Andrew Barkley ynglŷn â’r datblygiadau yn yr ymchwiliad.

Dywedodd y Sarjant Gary Jones: “Rydym bellach wedi cwblhau ein hymchwiliad i’r gwrthdrawiad trasig yma. Cafodd yr holl ddeunydd ei drosglwyddo i Wasanaeth Erlyn  y Goron ar 17 Gorffennaf.”

Ychwanegodd eu bod yn disgwyl clywed gan Wasanaeth Erlyn  y Goron ymhen chwe wythnos.

Mae’n debyg mai Rhodri Miller, 17 oed, oedd yn gyrru’r car fu mewn gwrthdrawiad, gydag Alesha O’Connor a Corey Price yn teithio yn y car gydag ef.

Roedd Margaret Challis, o Ferthyr Tudful, yn y car arall.

Daeth y  gwrandawiad i ben a dywedodd y crwner Andrew Barkley  y byddai’n ailddechrau ymhen deufis.