Mae mudiad Cymorth Cristnogol wedi cynnal digwyddiad i godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd ar faes yr Eisteddfod ym Meifod heddiw.

Yn ystod y sesiwn fe gafodd cardiau ymgyrchu eu cyflwyno i’r Aelod Seneddol Llafur Huw Irranca-Davies, sydd hefyd yn Gadeirydd ar Bwyllgor Archwilio yr Amgylchedd San Steffan.

Mae’n un o sawl digwyddiad mae’r mudiad yn ei gynnal yr wythnos hon i ddathlu ei phen-blwydd yn 70 oed.

Argyfwng

Bu aelodau o’r mudiad Cristnogol yn Ethiopia llynedd i weld effaith newid hinsawdd, wrth i ymchwil awgrymu y gallai 182 miliwn o bobl yn Affrica farw o glefydau yn ymwneud â newid hinsawdd erbyn diwedd y ganrif.

Yn ôl Mari McNeill o Gymorth Cristnogol, mae newid hinsawdd yn un o’r prif broblemau mae’r mudiad yn awyddus i ymgyrchu yn ei gylch.

“Mae digwyddiadau’r wythnos hon yn fodd o dynnu sylw at nifer o ymgyrchoedd cyfredol sydd gan Gymorth Cristnogol,” esboniodd Mari McNeill.

“Ystyrir newid hinsawdd y prif fygythiad yn erbyn ein bodolaeth ar y blaned, bygythiad fydd yn sicr o effeithio’r gwledydd tlawd waethaf a dwysau’r anghyfartaledd rhwng tlawd a chyfoethog.”