Steve Jobs
Fe fydd ffilm gan Danny Boyle am fywyd sylfaenydd cwmni Apple, Steve Jobs yn cau Gŵyl Ffilm Llundain.
Mae Michael Fassbender, Kate Winslet a Seth Rogen yn ymddangos yn y ffilm, ac fe fydd yn cael ei dangos yn Odeon Leicester Square ar Hydref 18.
Dyma’r trydydd tro i un o ffilmiau Danny Boyle gau’r ŵyl – Slumdog Millionaire (2008) a 127 (2010) yw’r ddwy arall.
Fassbender, sydd fwyaf adnabyddus am ei ran yn y ffilmiau X-Men, sy’n chwarae rhan Steve Jobs, ac mae’r ffilm yn seiliedig ar fywgraffiad Walter Isaacson gan Aaron Sorkin.
Mae’n canolbwyntio ar fywyd Jobs rhwng 1984 a 1998, y cyfnod pan lansiodd y Macintosh (1984), y NeXT Cube (1988) a’r iMac (1998).
Y ffilm ‘Suffragette’, gyda Meryl Streep, Carey Mulligan a Helena Bonham Carter fydd yn agor yr ŵyl ar Hydref 7.
Bydd y rhaglen lawn yn cael ei chyhoeddi ar Fedi 1.