Daeth cadarnhad fod seren y gyfres deledu ‘The Apprentice’, Stuart Baggs wedi marw o ganlyniad i asthma.

Cafodd Baggs, 27, ei ddarganfod yn ei gartref ar Ynys Manaw ar Orffennaf 30.

Doedd archwiliad post mortem cychwynnol ddim wedi gallu pennu achos ei farwolaeth.

Mewn datganiad, dywedodd Cwnstabliaeth Ynys Manaw fod crwner o’r farn ei fod wedi marw o ganlyniad i asthma.

Roedd Baggs yn gystadleuydd ar y gyfres deledu boblogaidd yn 21 oed yn 2010, ac roedd yn fwyaf adnabyddus am ei ymadroddion ac am ddisgrifio’i hun fel “Baggs the brand”.

Ond nid oedd wedi llwyddo i fynd y tu hwnt i’r cyfweliadau gyda’r arbenigwyr busnes yn y gyfres gafodd ei hennill gan Stella English.