Stephen Lawrence
Wrth i’r ymchwiliad i lofruddiaeth Stephen Lawrence barhau, mae pennaeth Scotland Yard, Syr Bernard Hogan-Howe wedi dweud ei fod yn obeithiol o gynnal ymchwiliad llwyddiannus.

Cafodd y myfyriwr croenddu 18 oed ei drywanu i farwolaeth gan grŵp o bobol croenwyn mewn ymosodiad hiliol yn ne ddwyrain Llundain ar Ebrill 22, 1993.

Aeth 18 o flynyddoedd heibio cyn i ddau ddyn – Gary Dobson a David Norris – ymddangos gerbron llys mewn perthynas â’i farwolaeth.

Cawson nhw eu carcharu am oes ym mis Ionawr 2012.

Dywedodd Syr Bernard Hogan-Howe fod yr “ymchwiliad araf, trylwyr, cyfrinachol” wedi llwyddo hyd yma ac na fyddai natur yr ymchwiliad yn newid.

Ond mae’n cydnabod fod ymchwiliad araf yn debygol o ennyn beirniadaeth.

Mae e wedi wfftio honiadau bod yr heddlu wedi colli diddordeb yn yr achos.