Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Farina Abertawe y bore ma yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi mynd i drafferthion yn y dŵr.
Mae hofrennydd yr heddlu, bad achub Y Mwmbwls a Gwylwyr y Glannau wedi bod yn archwilio’r safle ers 11.10 y bore ma.
Mae’r chwilio’n parhau.