Camila Batmanghelidjh
Mae rhoddwr elusennol oedd wedi rhoi £3 miliwn i’r elusen plant Kids Company wedi tynnu ei gefnogaeth yn ôl oherwydd honiadau sy’n cysylltu’r elusen â cham-drin plant, yn ôl y sylfaenydd.
Daeth yr elusen i ben ddydd Mercher ar ôl rhedeg allan o arian.
Dywedodd sylfaenydd yr elusen, Camila Batmanghelidjh wrth BBC Radio 4 fod y rhoddwr wedi tynnu allan ar ôl cael gwybod am ymchwiliad gan yr heddlu.
Cafodd yr elusen wybod am yr honiadau gan yr heddlu yn syth ar ôl iddyn nhw dderbyn grant gwerth £3 miliwn gan y Swyddfa Gabinet.
Mae Camila Batmanghelidjh yn rhoi’r bai ar weision sifil a gweinidogion San Steffan am sefyllfa’r elusen.
Mae hi wedi galw ar Brif Weinidog Prydain, David Cameron i egluro beth fydd yn digwydd i’r plant oedd yn derbyn cymorth gan yr elusen mewn 11 o ganolfannau a 40 o ysgolion.
Dywed y llywodraeth eu bod nhw’n cydweithio ag awdurdodau lleol er mwyn gwarchod plant a phobol ifanc.
Mewn datganiad, mae Camila Batmanghelidjh wedi ymddiheuro i’r holl blant sydd wedi cael eu heffeithio.
Mae’r elusen hefyd wedi cael ei chyhuddo o gam-reoli arian, ac mae’r Swyddfa Gabinet wedi mynd ati i geisio adennill y grant gwerth £3 miliwn gan fod cyflogau staff wedi dod allan o’r grant hwn.
Roedd y Swyddfa Gabinet wedi rhoi’r grant ar yr amod bod Camila Batmanghelidjh yn camu i lawr fel prif weithredwr.