Seremoni i nodi 70 mlynedd ers gollwng bom atomig ar Hiroshima
Mae Japan wedi nodi 70 mlynedd ers i’r Unol Daleithiau ollwng bom atomig ar Hiroshima, gyda’r Maer Kazumi Matsui yn annog arweinwyr byd i wella’u hymdrechion i gael gwared ag arfau niwclear.

Bu degau o filoedd o bobl yn nodi munud o dawelwch am 8.30yb (amser lleol) yn y seremoni ym mharc heddwch Hiroshima lle digwyddodd yr ymosodiad ar 6 Awst, 1945.

Roedd y bom cyntaf ar Hiroshima, “Little Boy”, wedi lladd 140,000 o bobl a chafodd ail fom, “Fat Man” ei ollwng dros Nagasaki dridiau’n ddiweddarach, gan ladd 70,000 yn rhagor o bobl. Bu farw miloedd yn ddiweddarach o ganlyniad i effeithiau’r ymbelydredd.

Yn sgil hynny roedd Japan wedi ildio.

Dywedodd Kazumi Matsui bod yn rhaid cael gwared ag arfau niwclear a’u bod yn cael eu defnyddio fel bygythiad gan rhai gwledydd.

Mae wedi estyn gwahoddiad o’r newydd i’r Arlywydd Barack Obama ac arweinwyr byd eraill i ymweld â Hiroshima a Nagasaki i weld y creithiau dros eu hunain.

Yn y seremoni roedd cynrychiolwyr o fwy na 100 o wledydd gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Prydain, Ffrainc a Rwsia.

Fe fydd digwyddiad ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod heddiw i nodi’r achlysur.