Jeremy Clarkson
Mae cyn-gyflwynwyr Top Gear, Jeremy Clarkson, Richard Hammond a James May, wedi arwyddo cytundeb gyda chwmni Amazon i ddarlledu cyfres foduro newydd.
Fe adawodd y triawd eu rhaglen gyda’r BBC ar ôl ffrae yn gynharach eleni rhwng Clarkson ac aelod o’r tîm cynhyrchu, gyda’r gorfforaeth yn penderfynu peidio ag ymestyn cytundeb y cyflwynydd yn dilyn hynny.
Mae’r cyflwynwyr nawr wedi arwyddo cytundeb gydag Amazon, sydd eisoes yn ceisio herio cwmnïau fel Netflix yn y byd darlledu ar-lein, i ddangos tair cyfres o’u sioe newydd fydd yn dechrau yn 2016.
‘Oes newydd’
Does dim enw wedi cael ei roi i’r sioe foduro newydd hyd yn hyn, ond fe fydd hi ar gael i’w gwylio ledled y byd i holl gwsmeriaid Amazon Prime.
Bydd cyn-gynhyrchydd Top Gear, Andy Wilman, hefyd yn ymuno â’r tri chyflwynydd ar eu rhaglen newydd.
“Dw i’n teimlo fel mod i newydd ddringo allan o awyren fach ac i mewn i long ofod,” meddai Jeremy Clarkson wrth gyhoeddi’r newyddion.
Ychwanegodd James May ei bod hi’n “eironig” fod y tri chyflwynydd yn rhan o oes newydd o “deledu smart”.
Cafodd y gyfres Top Gear gyda Jeremy Clarkson, Richard Hammond a James May ei lansio gan y BBC yn 2002, ac ers hynny mae wedi tyfu i fod yn rhaglen foduro boblogaidd tu hwnt gyda’r hawliau yn cael eu gwerthu ar draws y byd.
Mae’r gorfforaeth eisoes wedi cyhoeddi mai Chris Evans fydd un o gyflwynwyr newydd Top Gear, ond does dim cadarnhad eto pwy fydd yn ymuno ag ef.