Fe fydd pumed bennod wythnosol o raglen ‘Pobol y Cwm’ yn cael ei dangos ar S4C erbyn diwedd y flwyddyn.
Ar hyn o bryd, mae’r ddrama nosweithiol yn cael ei darlledu nosweithiau Llun, Mawrth, Iau a Gwener.
Ond mae S4C wedi comisiynu ac wedi cytuno i ariannu pennod ychwanegol bob wythnos.
Dydy manylion darlledu’r bennod ychwanegol ddim wedi cael eu cyhoeddi eto.
Cafodd nifer y penodau wythnosol ei ostwng i bedwar ddechrau’r flwyddyn ar ôl i’r Omnibws ddod i ben yn sgil toriadau ariannol.
‘Gwerth am arian’
Mewn datganiad, dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C, Dafydd Rhys: “Mae’r ffaith y gwelwn ni bum pennod o ‘Pobol y Cwm’ yn cael eu darlledu ar S4C bob wythnos eto yn newyddion da iawn i gynulleidfa’r sianel.
“Yn naturiol, roedden ni’n siomedig o orfod colli un o benodau canol wythnos y ddrama wrth ddod â’r Omnibws i ben y llynedd, ond rydym wrth ein boddau y bydd modd i’r gyfres ddychwelyd i bum pennod yr wythnos.
“Fe fydd hyn yn cynnig gwerth am arian da i ni yn S4C a bydd yn golygu ein bod yn medru mynd yn ôl i gynnig drama sebon yn nosweithiol ar y sianel.”
‘Newyddion gwych’
Ychwanegodd Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Sian Gwynedd: “Mae hwn yn newyddion gwych i’r cynhyrchiad ond yn bennaf oll i wylwyr.
“Mae yna waith caled wedi ei wneud i gryfhau’r gyfres a byddwn yn parhau gyda’r gwaith yna wrth baratoi ar gyfer y bumed bennod. Fe welson ni yn ystod y dathliadau pen-blwydd y llynedd beth mae’r gyfres yn ei olygu i wylwyr dros Gymru gyfan. Fel cam nesaf byddwn nawr yn trafod gyda’r undebau talent.”
Mae ailddarllediadau gydag isdeitlau ar y sgrin ar gael ar y noson wedi’r darllediad gwreiddiol (pennod nos Wener yn cael ei hailddarlledu nos Lun) am 6.00, a phob pennod ar gael i’w gwylio eto ar wasanaeth ar-lein S4C, s4c.cymru, a thrwy’r BBC iPlayer.