Dr Meredydd Evans
Bydd cyfrol deyrnged i Merêd, Hawliau Iaith, yn cael ei lansio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae’r gyfrol yn canolbwyntio ar ddau o ddiddordebau mawr Merêd, sef yr iaith Gymraeg ac Athroniaeth.
Bu farw Dr Meredydd Evans fis Chwefror eleni yn 95 oed. Roedd yn ffigwr amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru, fel perfformiwr, arbenigwr ar ganu gwerin ac ymgyrchydd iaith amlwg.
Ymgyrchu ac Athronyddu
Gwynn Matthews yw golygydd y gyfrol, ac ynddi mae’n gwerthfawrogi cyfraniadau Merêd i’r diwylliant Cymraeg ac, yn fwy penodol, i athronyddu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ceir erthyglau ar hawliau iaith gan rai o arbenigwyr pennaf y maes, gan gynnwys Huw Lewis, Emyr Lewis, Steven D Edwards, Ned Thomas, Carys Moseley a Huw Williams.
“Fe uniaethwyd ymgyrchu ac athronyddu yn holl lafur ei fywyd,” meddai Gwynn Matthews wrth ddisgrifio Merêd.
Un o weledigaethau Merêd oedd sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac, yn ôl Gwynn Matthews, llwyddodd i “sicrhau lle anrhydeddus i athroniaeth yn y gyfundrefn ifanc honno.”
Cyhoeddir Hawliau Iaith ar y cyd ag Adran Athronyddol Graddedigion Prifysgol Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Caiff y gyfrol ei lansio ar stondin y Coleg Cymraeg ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am 2yp dydd Mawrth, 4 Awst gyda siaradwyr gwadd a cherddoriaeth.