Mae’r cwmni olew BP wedi cyhoeddi colled o £2.7 biliwn yn ystod chwe mis cynta’r flwyddyn.

Mae’r golled yn dod yn sgil gostyngiad mewn prisiau olew a dirwy arall o £6.3 biliwn i’r cwmni am ei ran yn nhrychineb Deepwater Horizon.

Ddechrau’r mis, cyrhaeddodd BP gytundeb gyda Llywodraeth y UDA am y trychineb yn 2010 ar ôl i olew lifo  i Gwlff Mecsico.

Mae’r cwmni eisoes wedi talu £35.1 biliwn am y trychineb.