Paul yn cystadlu yn The Great British Bake Off
Mae Cymro a chyn aelod o Warchodlu’r Coldstream ym Mhalas Buckingham ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan yng nghystadleuaeth bobi The Great British Bake Off eleni.

Mae Paul, 49, wedi bod yn llywodraethwr carchar am wyth mlynedd, ond roedd yn perfformio dyletswyddau seremonïol ym Mhalas Buckingham cyn hynny.

Dywedodd fod y gystadleuaeth yn “gyfle i ddangos bod dynion fel fi, sydd wedi cael ein stereoteipio gan ein swyddi, wrth ein boddau yn pobi a’i fod yn sgil a thalent i fod yn falch ohono.”

Bydd  Paul yn cystadlu yn erbyn 11 cystadleuydd arall am y teitl – ond bydd yn rhaid iddo blesio’r beirniaid Paul Hollywood a Mary Berry cyn hawlio buddugoliaeth.

Bydd y rhaglen yn dychwelyd i BBC1 ar Awst 5 am y chweched gyfres.