Yr Arglwydd Sewel
Mae’r Arglwydd Sewel wedi ymddiswyddo o Dŷ’r Arglwyddi yn dilyn honiadau ei fod wedi cymryd cocên gyda phuteiniaid.
Mae’r cyn-weinidog Llafur wedi ildio i bwysau yn dilyn yr honiadau ym mhapur The Sun on Sunday.
Fe ymddiheurodd am “y boen a’r embaras” yr oedd wedi ei achosi.
Mewn datganiad i swyddogion seneddol dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai ei benderfyniad “yn cyfyngu ac yn helpu i adfer y niwed” yr oedd wedi’i wneud i’r sefydliad.
Ddoe, cafodd ei wahardd o’r Blaid Lafur wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad i’r honiadau.
Roedd eisoes wedi ymddiswyddo fel Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Arglwyddi a chadeirydd pwyllgor safonau’r Arglwyddi ac roedd dan bwysau i ymddiswyddo o Dŷ’r Arglwyddi yn gyfan gwbl.
Roedd y Prif Weinidog David Cameron wedi awgrymu ddoe y dylai’r Arglwydd Sewel, 69, gael ei orfodi i adael Tŷ’r Arglwyddi oherwydd yr honiadau “difrifol iawn”.
Mae’r Heddlu Metropolitan yn cynnal ymchwiliad i’r honiadau.