Fe fu farw bachgen saith oed ar ôl iddo lithro i mewn i beipen ar safle adeiladu, meddai ei nain.
Cafwyd hyd i gorff Conley Thompson ar y safle adeiladu yn Worsbrough, ger Barnsley y bore ma ar ôl iddo ddiflannu neithiwr.
Fe fu ei nain Deborah Fraser yn ymweld â’r safle heddiw a dywedodd ei bod mewn sioc o glywed am ei farwolaeth.
Roedd yn fachgen “hyfryd, llawn hwyl” meddai.
Cafodd Conley Thompson ei weld y tro diwethaf yn chwarae gyda ffrindiau ym Mharc Locke tua milltir o’r safle adeiladu nos Sul.
Roedd wedi cyrraedd y parc tua 6yh ac fe adawodd ddwy awr yn ddiweddarach ond fe fethodd a dychwelyd i’w gartref.
Cafwyd hyd i’w gorff tua 8.30yb y bore ma, meddai Heddlu Swydd De Efrog.