Mae ffigyrau newydd yn dangos bod un plentyn neu berson ifanc yn cael eu cyfeirio at raglen wrth-radicaleiddio’r Llywodraeth bob dydd.
Rhwng Ebrill 2012 a Mehefin 2014 roedd 834 o dan 18 oed wedi cael eu cyfeirio at “Channel”, sy’n darparu cymorth i bobl sydd wedi eu nodi o fod mewn perygl o gael eu dylanwadu gan frawychwyr.
Yn 2012/13 roedd cyfanswm o 290 o bobl ifanc a phlant wedi cael eu cyfeirio at y rhaglen, gyda’r nifer yn cynyddu bron i 50% i 423 y flwyddyn ganlynol.
Roedd y data gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) yn dangos bod 84 o blant o dan 12 oed wedi eu cyfeirio at y rhaglen.
Dywedodd y Swyddfa Gartref, ers i’r rhaglen cael ei chyflwyno’n genedlaethol mae yna fwy na 4,000 o bobl wedi derbyn cymorth.
Gall pobl gael eu cyfeirio at y rhaglen gan amrywiaeth o sefydliadau megis ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a chyrff iechyd.
Daw’r ffigyrau i’r amlwg yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth gan y Press Association.
Dywedodd y Gweinidog Diogelwch John Hayes: “Ers i Channel gael ei gyflwyno’n genedlaethol mae cannoedd o bobl sydd mewn perygl o gael eu dylanwadu gan frawychiaeth dreisgar wedi derbyn cefnogaeth.
“Mae cyfeiriadau at Channel wedi cynyddu ers 2014, ac rydym wedi neilltuo adnoddau digonol i’r rhaglen i ymdopi â’r galw.”