Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael ei saethu ger Abercynon neithiwr.

Yn ôl llygad dystion cafodd dau ergyd o wn eu clywed yn cael eu tanio o gar Audi A3 gwyn tua 7.40yh neithiwr.

Cafodd Mark Jones, 43 oed, o Aberpennar ei gludo i Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful lle mae mewn cyflwr difrifol.

Mae dyn 46 oed o Aberpennar wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, meddai Heddlu’r De ac yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae Heddlu’r De yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad ar yr A4059 rhwng Aberpennar ac Abercynon ac yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a oedd wedi clywed gan Mark Jones, neu wedi ei weld yn ystod y nos neithiwr.

Mae’r heddlu hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd beth ddigwyddodd, neu’r car neu unrhyw un a oedd yn yr ardal  rhwng 7.30yh a 8yh.

Dywed yr heddlu bod y digwyddiad wedi achosi pryder i drigolion lleol ond nad ydyn nhw’n credu bod yna risg i’r cyhoedd.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r De ar 02920 527303 neu 101 gan nodi’r rhif cyfeirnod 1500271720, neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555111.