Mae o leiaf 15 o bobl wedi marw ar ôl i fom mewn lori ffrwydro yn Mogadishu, prifddinas Somalia.

Yn yr ymosodiad ar Westy Jazeera, roedd tri o newyddiadurwyr, diplomydd o Kenya a gweithiwr o lysgenhadaeth China, ymysg y meirw.

Mae’r ymosodiad wedi codi pryderon bod y grŵp brawychol, Al-Shabab, sydd â chysylltiadau gydag Al-Quaida, am ddwysau’r ymgyrch yn erbyn llywodraeth Somalia.

Roedd Al-Shabab wedi cael eu gwthio allan o’r brifddinas gan luoedd Somalia, gyda chefnogaeth milwyr yr African Union.

Dywedodd Al-Shabab bod y bom yn ymateb i hynny.

Roedd Gwesty Jazeera yn fan cwrdd adnabyddus yn y ddinas i ddiplomyddion, newyddiadurwyr a gwesteion y llywodraeth.

Roedd y ffrwydrad wedi difrodi rhan o’r gwesty a dwsinau o gartrefi gerllaw.