Doctor Who
Mae gobaith y bydd cwmni cynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu newydd yn rhoi hwb o tua £100 miliwn i economi greadigol Cymru.

Mae  Llywodraeth Cymru yn ymuno a dwy o gyn-gynhyrchwyr drama’r BBC, Jane Tranter a Julie Gardner, i gefnogi’r cwmni Bad Wolf sydd wedi’i leoli yn Los Angeles a de Cymru.

Bydd y fenter yn cynhyrchu rhaglenni teledu a ffilmiau ar gyfer pen ucha’r farchnad ryngwladol.

Roedd Jane Tranter a Julie Gardner, gyda Russell T Davies, yn gyfrifol am ddod a Doctor Who a Torchwood i Gymru dros ddegawd yn ôl.

Jane Tranter a Julie Gardner oedd penaethiaid Drama’r BBC tan 2008 cyn gadael am  Los Angeles i redeg BBC Worldwide Productions. Yno fe wnaethon nhw gynhyrchu rhaglenni sydd wedi dod â thros £100 miliwn o elw i’r BBC.

Yn ystod eu hamser yn Los Angeles, cawsant eu comisiynu i gynhyrchu tair cyfres o’r ddrama hanesyddol Da Vinci’s Demons gan greu Stiwdio’r Bae yn Abertawe i wneud hynny.

Yn ystod eu cyfnod yn BBC Worldwide Productions, mae eu cynyrchiadau – gan gynnwys Dancing with the Stars, Life Below Zero a Getting On – wedi derbyn 10 enwebiad ar gyfer gwobrau Emmy.

‘Gweddnewid yr economi greadigol’

Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, maen nhw’n bwriadu datblygu ail gynllun deng mlynedd fydd “yn gweddnewid yr economi yng Nghymru ac yn creu dyfodol tymor hir i ffilm a theledu yn yr ardal.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi Edwina Hart: “Y Diwydiannau Creadigol yw un o’r sectorau blaenoriaeth sy’n tyfu gyflymaf.  Rydym am i Gymru gael enw am fod yn ganolfan o ragoriaeth ryngwladol ar gyfer drama deledu o’r radd flaenaf ac mae’r buddsoddiad hwn yn rhan o’n cynllun i greu diwydiant teledu cynaliadwy a thymor hir yng Nghymru.

“Gyda Pinewood Studio Cymru, bydd y cwmni newydd talentog hwn â’i rwydweithiau eang yn sicrhau bod Cymru’n cynhyrchu rhaglenni teledu i’r byd am flynyddoedd i ddod.

“Mae gan Jane a Julie berthynas gref a hir â darlledwyr yn America a bydd eu rhestr o gynyrchiadau rhyngwladol yn bwysig iddynt wrth ddatblygu a chynnal eu criw o weithwyr yng Nghymru.

“Mae potensial i’r buddsoddiad hwn weddnewid yr economi greadigol yng Nghymru.    Bydd yn cynnal un o ganolfannau cynhyrchu drama deledu gynaliadwy mwyaf Prydain y tu allan i Lundain ac yn helpu i ddenu mwy o fuddsoddi, cryfhau sgiliau a’r gadwyn gyflenwi a chreu manteision diwylliannol ac i dwristiaeth.”

‘Ar flaen y gad’

Meddai Jane Tranter, cyd-sylfaenydd Bad Wolf: “Mae’r byd teledu wedi newid yn llwyr yn y degawd diwethaf.  Mae cynyrchiadau rhyngwladol anferth sy’n defnyddio cyllidebau ar raddfa ffilm wedi sicrhau bod teledu Prydain ar flaen y gad yn y chwyldro hwn.

“Mae Llywodraeth Cymru’n deall, trwy roi lle blaenllaw i Gymru yn y diwydiant, y gallai ymhen degawd fod yn un o’i arweinwyr.”

Dywedodd Julie Gardner, MBE: “Mae Jane a finne wedi ffilmio ym mhob rhan o’r byd a gallwn ddweud o brofiad bod y talentau yn ne Cymru gyda’r gorau.  Mae’n wefr inni gael dechrau ar y fenter newydd hon yng nghanol cymaint o dalent ac angerdd.”