Mae arbenigwr diogelwch wedi croesawu cynlluniau i gyflwyno milwyr i ddinasoedd gwledydd Prydain pe bai ymosodiad brawychol.
Yn ôl y cynlluniau, fe fyddai mwy na 5,000 o filwyr yn cael eu hanfon i ddinas sy’n dioddef ymosodiad gan eithafwyr, yn ôl papur newydd y Mail on Sunday.
Byddai’r milwyr yn cydweithio â’r heddlu fel rhan o Ymchwiliad Temperer, wrth i arbenigwyr gwrth-frawychiaeth ac MI5 fynd ar drywydd brawychwyr.
Cafodd manylion y cynllun eu datgelu yng nghofnodion cyfarfod Cyngor Penaethiaid yr Heddlu.
Dywedodd cyfarwyddwr astudiaethau diogelwch rhyngwladol y Sefydliad Gwasanaethau Unedig Brenhinol, Raffaello Pantucci: “Mae’n synhwyrol. Mae’n rhaid bod gennych chi gynlluniau wrth gefn i baratoi ar gyfer y sefyllfa waethaf.
“Pe bai gennych chi amryw leoliadau fel roedd ganddyn nhw yn dilyn ymosodiadau Paris, mae’n bosib y byddai adnoddau’n cael eu hymestyn yn ormodol.
“Fe fyddai’n rhaid edrych ar opsiynau eraill a’r Fyddin fyddai’r rhai mwyaf amlwg i alw arnyn nhw.”