Mae rheini’r ferch 14 oed, Alice Gross wedi mynnu atebion ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod y crwner yn yr achos wedi gadael ffeil gyda’i manylion personol ar drên.

Roedd Chinyere Inyama, crwner gorllewin Llundain, wedi colli’r ffeil 30 tudalen fis Tachwedd diwethaf, fis ar ôl i gorff y ferch 14 oed gael ei ddarganfod mewn afon.

Roedd y ffeil yn cynnwys tystiolaeth yn erbyn y dyn oedd yn cael ei amau o’i llofruddio, Arnis Zalkalns.

Roedd yr heddlu eisoes wedi dod i’r casgliad bod y ffeil wedi cael ei dinistrio.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnal ymchwiliad i ddarganfod pam y cafodd y ffeil adael swyddfa’r crwner.

Datganiad y teulu

Mewn datganiad, dywedodd rhieni Alice Gross, Ros Hodgkiss a Jose Gross: “Rydyn ni wedi ceisio cymorth yr heddlu a’r crwner i’n helpu ni yn colled ofnadwy.

“Ond bellach rydyn ni wedi darganfod eu bod nhw – yn annibynnol neu gyda’i gilydd – wedi celu gwybodaeth oddi wrthon ni am golli’r wybodaeth sensitive hon am Alice.

“Ry’n ni’n bryderus iawn, yn syfrdan ac yn grac – ac rydyn ni wedi gofyn am eglurhad llawn ar bapur ynghylch yr hyn ddigwyddodd a pham na chawson ni wybod.”

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymchwilio i’r mater.

Cefndir

Aeth Alice Gross ar goll o’i chartref a’r ymchwiliad i’w diflaniad oedd yr un mwyaf gan Heddlu Scotland Yard ers cyrchoedd bomio 7/7.

Cafodd ei chorff ei ddarganfod ar Fedi 30.

Ddyddiau’n ddiweddarach, cafodd corff Zalkalns ei ddarganfod wedi crogi mewn parc.

Roedd Zalkalns eisoes wedi treulio saith mlynedd dan glo am lofruddio’i wraig yn Latfia.

Mae disgwyl i’r cwest i farwolaeth Alice Gross gael ei gynnal ddiwedd mis Tachwedd neu ddechrau mis Rhagfyr.

Dydy hi ddim yn glir eto a fydd rheithgor ynghlwm wrth y cwest.