(llun: PA)
Mae troseddwyr estron yn ‘gwyngalchu’ biliynau o bunnau trwy brynu tai drudfawr yn Llundain, yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.

Dywed Donald Toon, cyfarwyddwr adran troseddau economaidd yr asiantaeth fod y nifer o dai sy’n cael eu prynu gan gorfforaethau tramor cymhleth yn peri dychryn iddo.

Mae’r Trysorlys wedi derbyn £150 miliwn yn y tri mis diwethaf o dreth benodol ar eiddo sy’n cael ei brynu gan gwmnïau, ymddiriedolaethau a chronfeydd. Mae hyn yn cymharu â £100 miliwn mewn blwyddyn gyfan pan ddaeth y dreth i rym yn 2013/14.

“Dw i’n credu bod y farchnad eiddo yn Llundain wedi cael ei hystumio gan arian wedi’i wyngalchu,” meddai Donald Toon. “Mae prisiau’n cael eu codi’n gan droseddwyr tramor sy’n ceisio dal gafael ar eu hasedau yma ym Mhrydain.”