Lorïau yn ciwio yn Calais rai wythnosau'n ôl (llun: PA)
Mae teithwyr yn wynebu oriau o oedi ger twnel y sianel wrth i wasanaethau gael eu gohirio oherwydd mudwyr ar ochr Ffrainc i’r twnel.

Mae’r cwmni sy’n rhedeg y gwasanaeth cludo cerbydau, Eurotunnel, wedi rhybuddio y bydd raid i deithwyr aros tua phum awr i groesi.

Cafodd gwasanaethau Le Shuttle, sydd fel arfer yn rhedeg bedair gwaith bob awr, eu hatal am rai oriau yn ystod y nos, ac mae pob tocyn wedi eu gwerthu ar gyfer teithiau heddiw.

Mae mudwyr yn heidio i derfynfa Eurotunnel bob nos bellach gan arwain at darfu ar wasanaethau.

Yr amcangyfrif yw bod 5,000 o fudwyr o wledydd yn cynnwys Syria, Libya ac Eritrea yn gwersylla o gwmpas Calais.

Mae’r anhrefn wedi achosi problemau mawr i yrwyr lorïau, gyda pherchnogion yn amcangyfrif ei fod yn costio hyd at £750,000 y dydd i’r diwydiant cludo nwyddau ym Mhrydain.

Mae’r oedi diweddaraf yn digwydd ar un o benwythnosau prysuraf yr haf wrth i ymwelwyr heidio o Brydain am wyliau ar dir mawr Ewrop.