Mae arwydd uniaith Saesneg un o brif orsafoedd Caerdydd wedi cythruddo aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Bydd aelodau’r mudiad yn gwrthdystio y tu allan i orsaf drenau Heol y Frenhines, heddiw i fynnu bod Network Rail yn newid prif arwydd yr orsaf.

Maen nhw wedi bod yn llythyru â chwmni Network Rail am ei fethiant i gydymffurfio â gofynion iaith sylfaenol fel yr arwydd.

Bydd y brotest hefyd yn tynnu sylw at y methiant i ddiogelu rhai o hawliau iaith pobl Cymru mewn sefyllfaoedd o’r fath, yn rhannol oherwydd yr oedi o ran gwneud cynnydd gyda gweithredu’r hawliau iaith newydd – y Safonau.

Siomi

Mewn llythyr at Network Rail cyn y brotest, dywedodd Carl Morris, Cadeirydd Cell Caerdydd, y gangen leol o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Rydyn ni’n cynnal protest gan fod nifer o drigolion Caerdydd wedi cael eu siomi gan arwydd yr orsaf. Drwy osod yr arwydd yno, mae Network Rail yn dangos diffyg parch llwyr at iaith swyddogol ein gwlad, iaith mae miloedd o’r cymudwyr a’r ymwelwyr sy’n pasio drwy’r orsaf yn ei defnyddio yn eu gwaith a’u bywydau bob dydd.

“Ar ben hynny, maen nhw wedi methu hyd yn oed â chydymffurfio â’u canllawiau dylunio eu hunain, sy’n pwysleisio pwysigrwydd gorsafoedd sy’n parchu’r amgylchedd a’r cymunedau maen nhw wedi’u lleoli ynddynt.

“Rydyn ni’n credu ac yn mynnu y dylai fod modd i ddinasyddion Cymru ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r arwydd yma’n nodweddiadol o’r nifer o ffyrdd, mawr a bychain, y mae rhwystrau yn cael eu rhoi yn ffordd y rhai, fel ni, sydd eisiau byw yn Gymraeg yn ein prifddinas.”