Puerto Madryn, Patagonia
Fel rhan o’r dathliadau i nodi 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa, mae’r Prif Weinidog yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau cymunedol ledled Patagonia.

Yn 1865, hwyliodd 160 o ymfudwyr ar y Mimosa ac ymsefydlu ar arfordir Talaith Chubut ym Mhatagonia. 150 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae 50,000 o bobl Patagonia â gwaed Cymreig yn byw yn yr ardal, a heddiw bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn hedfan allan i gwrdd â rhai ohonyn nhw.

Bydd yn mynychu  digwyddiadau swyddogol a gynhelir ym Mhorth Madryn sydd wedi’u trefnu gan Lywodraeth Chubut i nodi’r achlysur. Bydd gwleidyddion, gwahoddedigion a chymunedau Cymreig o bob rhan o Chubut yn mynd i’r digwyddiadau hyn.

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Carwyn Jones, “Yn 1865 camodd dynion, menywod a phlant ar y Mimosa ar gyfer y daith hir a pheryglus i dir pellennig. Gadawon nhw Gymru i wneud bywyd newydd i’w hunain, er mwyn rhoi dyfodol gwell i’w teuluoedd, a gwneud eu cartref yn nhalaith Chubut ym Mhatagonia.”

“Pan adawon nhw Gymru, aethon nhw â rhan ohoni gyda nhw,” meddai Carwyn Jones. ”Nid yn unig aethon nhw â’r iaith a’n treftadaeth ddiwylliannol unigryw, aethon nhw â’u calon a’u hysbryd Cymreig hefyd.”

Dathlu’r cysylltiadau

Dywedodd Carwyn Jones fod y cysylltiad rhwng y ddwy wlad yn parhau’n gryf, “Mae 150 o flynyddoedd wedi mynd heibio, ac mae’r rhan fach honno o Gymru yn Ne America yn parhau – mae ein cysylltiad â Phatagonia yn parhau’n gryf.”

Ychwanegodd: “Mae gan ddisgynyddion yr ymfudwyr o Gymru yn yr Ariannin le arbennig yn eu meddyliau i bobl Cymru, ac rydyn ni’n teimlo yr un peth. Rwy’n gobeithio y bydd y berthynas hon yn parhau i’r dyfodol, ac yn ystod fy ymweliad rwy’n edrych ymlaen at gael dathlu’r cysylltiadau sy’n dal yn bodoli, er gwaetha’r ffaith bod 7,500 o filltiroedd rhyngom ni.”