Rosemary Butler - wedi gofyn am eglurhad
Mae pryder bod ysbiwyr y llywodraeth wedi bod yn monitro Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol Albanaidd, yn dilyn adroddiadau bod canllawiau wedi cael eu newid.

Yn ôl honiadau gan bapur y Daily Record, mae Llywodraeth Prydainwedi addasu canllawiau oedd yn arfer dweud na ddylai ysbiwyr GCHQ fod yn gwrando ar ffonau ac edrych ar e-byst gwleidyddion.

Ond nawr mae’n debyg nad yw negeseuon Aelodau Cynulliad Cymru ac ASau Senedd yr Alban, yn ogystal ag Aelodau Seneddol Ewropeaidd, ddim yn cael eu gwarchod gan yr hyn sydd yn cael ei alw’n ‘athrawiaeth Wilson’.

Mae Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon eisoes wedi mynnu bod David Cameron yn esbonio’r sefyllfa a dweud os yw negeseuon wedi cael eu monitro.

Ac mae Llywydd y Cynulliad Rosemary Butler bellach wedi ysgrifennu at lywodraeth San Steffan i ofyn am eglurhad.

“Fel Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rydw i’n gyfrifol am amddiffyn buddiannau’r holl Aelodau,” meddai Rosemary Butler mewn datganiad.

“Ac rydw i’n teimlo y dylen nhw gael yr un driniaeth a statws gan wasanaethau diogelwch y Deyrnas Unedig, yn enwedig pan mae’n dod at gysylltiadau y gallan nhw fod yn cael gydag etholwyr, ag y mae seneddwyr yn San Steffan.”

‘Annerbyniol’

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, wedi ymateb wrth ddweud e bod hi’n “annerbyniol” os yw ysbiwyr wedi bod yn monitro cysylltiadau gwleidyddion datganoledig.

Ychwanegodd AC Plaid Cymru Simon Thomas ar Twitter ei fod eisiau cadarnhad nad yw swyddogion diogelwch wedi bod yn ysbio ar Aelodau Cynulliad.

Newid y canllawiau

Yn ôl adroddiad y papur newydd, roedd dogfennau swyddogol ym mis Mawrth eleni yn dangos bod ‘athrawiaeth Wilson’ am beidio ag ysbio ar wleidyddion yn cynnwys “Aelodau Seneddol, Aelodau Tŷ’r Arglwyddi, ASau Ewropeaidd, ac aelodau o gynulliadau’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon”.

Ond erbyn mis Mehefin roedd y canllawiau wedi cael eu newid, gan nodi bod yr athrawiaeth ddim bellach yn berthnasol i “negeseuon Aelodau Seneddol Ewropeaidd a’r cynulliadau datganoledig”.

Mynnodd Nicola Sturgeon nad oedd llywodraeth San Steffan wedi trafod y newid gyda Llywodraeth yr Alban, gan ychwanegu bod angen cadw negeseuon rhwng gwleidyddion a’u hetholwyr yn gyfrinachol.

“Rwy’n siŵr y gwnewch chi gytuno á mi fod cyfrinachedd rhwng aelodau seneddol a’u hetholwyr, heblaw mewn amgylchiadau difrifol tu hwnt yn ymwneud â diogelwch y wlad, yn hanfodol bwysig,” meddai Nicola Sturgeon mewn llythyr at David Cameron.