Fe gafodd un o aelodau amlwg gang o droseddwyr ddewis o ddyblu’i gyfnod yn y carchar neu dalu mwy na £500,000 am gynllwyn lle’r oedd cwmni o ogled Cymru’n ganolog.

Mae’r adran Gyllid a Thollau wedi cyhoeddi’r manulion sy’n dangos fod Albert Amritanand, 69, o Forfar yn yr Alban, wedi ei orchymyn i dalu’r arian o elw’r twyll neu dderbyn 5 mlynedd ychwanegol o garchar.

Mae dyn o Brestatyn eisoes wedi cael gorchymyn tebyg – am gyfansymiau llawer llai – oherwydd ei ran yntau yn y twyll tros ffonau symudol.

Gorchymyn cymryd eiddo

Albert Amrtanand yw’r nawfed aelod o’r gang i dderbyn gorchymyn i gymryd eiddo ers iddyn nhw gael eu carcharu am gyfanswm o 135 blynedd, yn dilyn ymchwiliad troseddol hir a chymhleth gan yr adran Gyllid a Thollau.

Maen nhw’n ceisio cael gafael ar gymaint â £2.3 miliwn yns gil yr achosion llys yn  erbyn 18 o bobol o ogledd Cymru i Sbaen.

Y dyn o Gymru

Y dyn o Gymru yw Christopher Ian Gibbs, 46, o Brestatyn, Sir Ddinbych, a gafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd o garchar yn 2012, am ei ran yn y cynllwyn.

Mae yntau wedi derbyn gorchymyn atafaelu am £7,121 neu dderbyn pedwar mis a hanner ychwanegol o garchar. Mae’r dyddiad terfyn ar gyfer y taliad ddiwedd y mis hwn.

Y cwmni o Gymru

Roedd cwmni o Ddyserth, Sir y Fflint, ynghanol y twyll gan bedwar busnes gwahanol i hawlio credyd Treth ar Werth ar ffonau symudol, er eu bod yn cael eu gwerthu dramor. Weithiau doedd y ffonau ddim hyd yn oed yn bod.

Eurocellular oedd enw’r cwmni yng Nghymru a thrwyddyn nhw yr oedd yr arian yn cael ei hawlio. Christopher Gibbs oedd Ysgrifennydd y cwmni.