Theresa May
Bydd adolygiad i farwolaethau pobl pan oedden nhw o dan ofal yr heddlu yn cael ei gyhoeddi gan Theresa May heddiw.
Daw’r adolygiad wrth i ffigurau gan Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) ddatgelu bod 17 o farwolaethau wedi bod o dan ofal yr heddlu yn 2014/15 – y nifer uchaf ers pum mlynedd.
Datgelwyd hefyd bod 69 o bobl yn ôl pob tebyg wedi cyflawni hunanladdiad yn dilyn bod yng ngofal yr heddlu. Roedd y ffigwr 50% yn uwch na’r 46 yn 2010/11.
Bydd yr ymchwiliad annibynnol yn edrych ar y cyfnod cyn ac yn dilyn marwolaethau a digwyddiadau difrifol – gyda’r ffocws ar y cymorth a roddir i deuluoedd mewn profedigaeth.
Bydd yr adolygiad hefyd yn cynnwys ymchwiliad o faterion eraill gan gynnwys y dulliau mae’r heddlu yn defnyddio i gyfyngu symudiad carcharorion, hunanladdiadau sydd yn digwydd o fewn 48 awr ar ôl i’r carcharor gael ei gadw yn y ddalfa a mynediad i gyfleusterau iechyd meddwl.
Bydd yr Ysgrifennydd Cartref yn dweud fod pob marwolaeth yn y ddalfa gyda’r potensial i effeithio’r berthynas rhwng y cyhoedd a’r heddlu.
Mae disgwyl i Theresa May ddweud y bydd profiad anwyliaid y rhai a fu farw yn y ddalfa – a dioddefwyr digwyddiadau difrifol eraill – wrth wraidd yr adolygiad.
Bydd yn esbonio fod yr adolygiad yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi dechrau – gan gynnwys ei haddewid i wario hyd at £15 miliwn er mwyn darparu dewisiadau iechyd amgen i’r miloedd o bobl sy’n cael eu cadw yng nghelloedd yr heddlu ar ôl cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.