Llys Ynadon Westminster
Mae dyn 24 oed wedi’i gyhuddo o gynllwynio i ymosod yn frawychol ar filwyr Americanaidd yng ngwledydd Prydain.
Mae Junead Ahmed Khan hefyd wedi’i gyhuddo o gynllwynio i deithio i Syria ynghyd â’i ewythr Shazib Ahmed Khan, 22, i ymuno â’r Wladwriaeth Islamaidd.
Bydd y ddau ddyn o Luton yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster yn ddiweddarach heddiw.
Mae’r troseddau honedig yn groes i Ddeddf Frawychiaeth 2006, a honnir i’r troseddau fod wedi cael eu cyflawni rhwng Awst 2014 a Mai eleni.
Mae Junead Ahmed Khan hefyd yn wynebu cyhuddiad arall mewn perthynas â’r Ddeddf Frawychiaeth.
Cafodd y ddau eu cyhuddo yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Scotland Yard.
Fe gawson nhw eu harestio’r wythnos diwethaf gan swyddogion o’r uned wrth-frawychiaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron fod digon o dystiolaeth yn erbyn y ddau i ddwyn achos.
Cafodd dyn arall, sydd yn ei 30au, ei ryddhau’n ddi-gyhuddiad neithiwr.
Cafodd dau adeilad eu harchwilio yn ardal Luton fel rhan o’r ymchwiliad.