Carl Fortune
Mae Heddlu Gwent wedi apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn 29 oed ddiflannu o ardal Bargoed yng Ngwent.
Cafodd Carl Fortune ei weld ddiwethaf am 10.20 fore Llun yn ardal Hengoed.
Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, tua 5’9”, o faint canolig a chanddo wallt brown a llygaid glas.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.