Jules Bianchi
Mae teyrngedau lu wedi cael eu rhoi i Jules Bianchi wrth i angladd y gyrrwr Fformiwla Un gael ei gynnal yn Nice heddiw.
Bu farw’r Ffrancwr ddydd Gwener ar ôl dioddef anafiadau difrifol i’w ben mewn damwain yn Grand Prix Siapan y llynedd, ac roedd wedi bod mewn coma ers naw mis.
Fe fydd rhif rasio’r gyrrwr, 17, yn cael ei ymddeol gan Fformiwla Un ac mae disgwyl rhagor o deyrngedau iddo yn ystod Grand Prix Hwngari’r penwythnos hwn.
Roedd y gyrrwr 25 oed wedi cystadlu mewn 34 ras yn ystod tymhorau 2013 a 2014, gan sgorio pwyntiau cyntaf erioed tîm Manor-Marussia pan orffennodd yn nawfed yn Grand Prix Monaco llynedd.
Jules Bianchi yw’r gyrrwr cyntaf i farw o anafiadau a gafwyd mewn ras Fformiwla Un ers i’r pencampwr Ayrton Senna gael ei ladd yn Grand Prix San Marino yn 1994.
Roedd sêr y gamp gan gynnwys Lewis Hamilton, Sebastian Vettel, Nico Rosberg ac Alain Prost ymysg y rheiny oedd yng ngwasanaeth angladd Jules Bianchi heddiw.