Max Clifford
Mae Max Clifford, y cyn-ymgynghorydd PR, wedi bod o flaen llys wedi’i gyhuddo o ymosodiadau anweddus ar ferch 17 mlwydd oed.

Fe gafodd Clifford, sy’n 72 mlwydd oed, o Surrey, ei gyhuddo o gyflawni’r drosedd yn ei swyddfeydd New Bond Street, Llundain rhwng mis Hydref 1981 a Mai 1982.

Fe blediodd Max Clifford yn ddieuog i’r cyhuddiad yn y gwrandawiad yn Llys Ynadon Westminster, gan ymddangos drwy gyswllt fideo.

Yn ystod ei yrfa o 40 mlynedd, fe gynrychiolodd Max Clifford rhai o enwau mwyaf y byd adloniant, gan gynnwys Simon Cowell, Jade Goody a Muhammad Ali.

Cafodd ei ddedfrydu fel rhan o Ymgyrch Yewtree, ymgyrch sy’n ymchwilio i achosion tebyg yn sgil sgandal Jimmy Savile.

Bydd Max Clifford yn ymddangos o flaen Llys y Goron Southwark ar 4 Awst 2015.